I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Twristiaeth Deuluol
Oes gennych chi wreiddiau teuluol yng Nghonwy? Ydych chi erioed wedi ystyried darganfod mwy am hanes eich teulu neu ddilyn ôl-traed eich cyndeidiau?
Mae hel achau yn boblogaidd iawn wedi mynd. I’r rheiny sy’n canfod bod eu hachau yn olrhain yn ôl i ardal Conwy, mae gan Wasanaeth Archifau Canolfan Ddiwylliant Conwy adnoddau a staff arbenigol sy’n gallu’ch helpu chi ddysgu mwy am fywydau a bro mebyd eich cyndeidiau. Mae’r cofnodion gwreiddiol sydd ar gael a chadw yn y Gwasanaeth Archifau yn dyddio’n ôl i 1331 ac yn cynnwys cofnodion eglwysi, ysgolion a busnesau, yn ogystal â llawer o fapiau, cynlluniau a ffotograffau. Gallwch weld y cofnodion a gofyn am gyngor gan ein staff yn rhad ac am ddim, yn ogystal â defnyddio cronfeydd data fel Ancestry a Find My Past.
Mae’r Gwasanaeth Archifau wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn nhref Conwy, wrth ymyl muriau hynafol y dref. Yn ogystal â’r archifau mae’r Ganolfan Ddiwylliant yn gartref i lyfrgell groesawgar, arddangosfeydd amgueddfa rhyngweithiol a chaffi. Unwaith rydych chi wedi darganfod lle yng Nghonwy roedd eich cyndeidiau yn byw, beth am fynd am dro a dilyn eu hôl-traed, gan ddarganfod bro eu mebyd a’r caeau a’r strydoedd a oedd yn gyfarwydd iddyn nhw, ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod ar draws eu cartrefi.
Beth am gyfuno hel achau gyda’r gweithgareddau eraill rydych chi wedi’u cynllunio? Gall y tro hwnnw yng nghefn gwlad godidog Conwy fod hyd yn oed yn fwy diddorol petaech yn gwybod bod eich cyndeidiau wedi troedio’r tir dan eich traed hefyd. Neu beth am ymweld ag un o atyniadau’r sir, a galw heibio cartref teuluol eich hen hen nain a taid ar y ffordd?
Mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Archifau cyn ymweld i dderbyn cyngor ar hel achau. Cofiwch hefyd bod gennym ni adnoddau amrywiol ar gael ar-lein yn Diwylliantconwy.com
GWASANAETH ARCHIFAU CONWY
Dewch i’n gweld ni yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy neu ar-lein yn Diwylliantconwy.com
ORIAU AGOR |
|
---|---|
Dydd Llun |
9.30am tan 12.30pm a 13.30pm tan 16.30pm |
Dydd Mawrth |
9.30am tan 12.30pm a 13.30pm tan 18.45pm |
Dydd Mercher |
9.30am tan 12.30pm a 13.30pm tan 16.30pm |
Dydd Iau |
9.30am tan 12.30pm a 13.30pm tan 16.30pm |
Dydd Gwener |
Ar gau |
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl