Person yn sganio cod QR ar ffôn

Am

Edrychwch am y logo gwyrdd HistoryPoints ar waliau, ffenestri ac ati. Sganiwch y codau QR gyda’ch ffôn clyfar neu dabled i gael hanes cryno’r adeilad, y gofeb neu’r tirlun o'ch blaen o wefan HistoryPoints.org. Mae’n wasanaeth am ddim (ac eithrio taliadau data gan eich darparwr ffôn symudol).

Mae HistoryPoints wedi gosod codau QR ar bron i 400 o leoliadau ar draws Sir Conwy. Defnyddiwch nhw i ddarganfod mwy am adeiladau a phontydd, neu i ddatgelu straeon o wroldeb ar gofebion rhyfel.

Mae yna hefyd gylchdeithiau cerdded lleol ar themâu poblogaidd, o un safle QR i’r nesaf. Rhai o’r testunau yw Ysbrydion a Chwedlau Conwy, Uchafbwyntiau Fictoraidd Llandudno a thai prydferth y cyfnod Celf a Chrefft yn Llanfairfechan.

Ac nid oes angen i chi fod yn y tywyllwch ddim hirach am darddiad enwau Cymraeg fel Pen Llithrig y Wrach neu Pont y Pair. Bydd HistoryPoints yn egluro eu hystyr, a hyd yn oed sut i’w ynganu!

Cyfleusterau

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Mewn tref/canol dinas
  • Yn y wlad

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

HistoryPoints

Taith i weld Golygfeydd

Conwy

Amseroedd Agor

* Ar gael 24 awr y dydd, drwy'r flwyddyn.

Gwelwyd yn Ddiweddar

Cynnyrch

  1. Taith Uwchdir Pensychnant

    Math

    Llwybr Cerdded

    Cylchdaith yn arwain o ben Pas Sychnant gyda golygfeydd arbennig o Ddyffryn Conwy, mynyddoedd y…

  2. Teithiau pysgota “Sea Fishing Trips” yng Ngogledd Cymru

    Math

    Pysgota

    Mae cwmni Sea Fishing Trips yng Nghonwy, Gogledd Cymru yn arbenigo mewn pysgota llongddrylliadau,…

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....