Natur
Yn gryno. Adar prin, glöynnod byw unigryw … a geifr gwyllt.
Beth am ddechrau gyda harddwch naturiol ein cefn gwlad a’n harfordir. Mae Dyffryn Conwy yn agor llwybr gwyrdd eang drwy’r bryniau a’r mynyddoedd, gyda rhostiroedd Mynydd Hiraethog ar y naill ochr a llethrau Eryri ar y llall.
Os ydych yn hoffi gwylio bywyd gwyllt, Mynydd Hiraethog yw’r lleoliad perffaith ar eich cyfer. Ceir yma nifer fawr o gynefinoedd gwahanol – rhostiroedd grug a choedwigoedd, llynnoedd ac afonydd – sy’n gartref i amrywiaeth gyfoethog o adar, planhigion ac anifeiliaid. Edrychwch am y gwiwerod coch prin neu’r grugieir duon. Efallai y cewch gip ar walch y pysgod prin, sy’n ymweld â Llyn Brenig yn y gwanwyn.
Mae adar – a gwylwyr adar – yn heidio i Warchodfa RSPB Conwy. Gwelwyd dros 200 o rywogaethau yma, ac mae’r warchodfa yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywysedig a chyfleusterau sy’n addas i blant – pa ryfedd ei bod yn denu nifer o deuluoedd yn ogystal ag adaryddion.
Gwelir nifer fawr o adar yng nghysgod Coedwig Pwllycrochan hefyd, ger Bae Colwyn. Mae’r warchodfa natur leol hon yn gartref i nifer o goed brodorol, aeddfed yn ogystal â rhywogaethau egsotig. Ceir coedtiroedd hynafol a Fictoraidd, ynghyd â rhostiroedd yng Nghanolfan Gadwraeth a Gwarchodfa Natur Pensychnant ar Fwlch Sychnant uwchlaw tref Conwy. Ac mae’r bywyd gwyllt ar ben y Gogarth yn Llandudno yn amrywio o eifr gwyllt i’r glesyn serennog, glöyn byw sy’n unigryw i’r darn hwn o dir.
Hefyd, ar glogwyni’r Gogarth gallwch weld nythfeydd o adar y môr – ac allan yn y môr mae ein bywyd morwrol yn cynnwys llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel a morloi.