I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Sut i dreulio diwrnod ym Metws-y-coed
Bore: Teithiau cerdded golygfaol
Yn swatio yng nghanol Eryri, Betws-y-coed yw’r sylfaen berffaith ar gyfer diwrnod o harddwch naturiol, antur a chyfaredd lleol. P’un a ydych chi am fynd am dro tawel mewn coetir neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous, mae popeth ar gael yn y pentref prysur hwn.
P’un a ydych chi wedi cyrraedd ar drên i orsaf drenau hardd Betws-y-coed neu wedi parcio gerllaw, beth am ddechrau eich diwrnod trwy fynd am dro hamddenol ar hyd glan yr afon o’r pentref at Bont y Mwynwyr – lleoliad arbennig sy’n llawn o hanes lleol. Ewch trwy’r goedwig at safle arbennig Rhaeadr Ewynnol, lle mae’r dŵr byrlymus yn gefndir gwych. Beth am gymryd hoe fach yn nhafarn Swallow Falls gerllaw, mae’n berffaith ar gyfer brecwast blasus neu baned o goffi cyn cychwyn eich prynhawn.
Prynhawn:
Ewch i lawr yn ôl i bentref Betws-y-coed i grwydro’r siopau croesawgar sy’n llawn o offer awyr agored, crefftau lleol ac anrhegion fel Galeri Betws-y-coed, sy’n arddangos artistiaid a ffotograffwyr lleol sydd wedi’u hysbrydoli gan y parc cenedlaethol.
Yna gallwch ymweld ag Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy a chael taith ar drên stêm bach a chael golwg ar gasgliad difyr o femorabilia rheilffordd. I gael rhywfaint o ddiwylliant a threftadaeth leol, ewch i Hen Eglwys Sant Mihangel, sy’n dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif. Y capel bach, llawn awyrgylch hwn yw’r adeilad hynaf yn y pentref ac mae’n cynnig cipolwg tawel ar orffennol Betws-y-coed.
Beth am aros am goffi a chacen cartref yn Siop Goffi Alpine, diod hamddenol yng Ngwesty Gwydyr neu roi cynnig ar y Stablau, lle bach cysurus sy’n gweini bwyd tafarn blasus ac sydd â theras gardd gwych - digonedd o ddewis ar gyfer pob achlysur.
Hwyr yn y Pnawn: Hwyl yn y Goedwig
Ydych chi’n barod am antur? Y tu allan i’r pentref, mae Zip World Fforest yn aros amdanoch. Rhowch gynnig ar Fforest Coaster, neu’r cwrs rhaffau yn y coed, neu beth am Plummet 2 – wrth gael eich gollwng 100tr trwy drapddor! Neu gallech ddarganfod antur tanddaearol yn Go Below gerllaw, trwy deithiau archwilio trwy hen fwyngloddiau yng nghanol Eryri.
Ddim awydd adrenalin? Beth am rhywbeth mwy hamddenol a mwynhau natur eto ac archwilio Ffos Anoddun, ceunant hudolus mewn coetir lle mae’r afon yn byrlymu trwy greigiau mwsogl – dafliad carreg yn y car, neu ar droed, o’r pentref. Mae’n lleoliad heddychlon, a bydd angen eich camera arnoch!
Os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol, beth am roi cynnig ar un o lwybrau’r goedwig o gwmpas Llyn Elsi, cronfa ddŵr uwchben y pentref. Mae’n daith gerdded gylchol â golygfeydd hardd o’r mynyddoedd a’r coetir heddychlon.
Gyda’r nos: Bwyd lleol a golygfeydd y cyfnos
Ar ôl eich anturiaethau, gallech fynd i gaffi Conwy Falls, neu ddychwelyd i’r pentref wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben. Beth am gadw bwrdd yng Ngwesty’r Royal Oak, lle gallwch fwynhau prydau Cymreig lleol mewn lleoliad cynnes a chysurus – diweddglo perffaith i ddiwrnod llawn darganfod, hwyl ac awyr iach.
P’un a ydych chi yma ar gyfer y golygfeydd, y pentref neu’r antur, mae diwrnod llawn archwilio a chrwydro yn aros amdanoch ym Metws-y-coed.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl