Mae llu o helfeydd wyau, llwybrau hudolus a gweithgareddau crefft i chi eu mwynhau ar draws y sir y Pasg hwn.

Archwiliwch rywle hanesyddol fel Castell Conwy neu Blas Mawr gyda gweithgareddau arbennig ar gyfer y Pasg; crwydrwch yn hamddenol mewn gerddi hardd; ewch i amgueddfa ddifyr neu ymunwch mewn gweithdy crefft, a chofiwch fwynhau ddanteithion blasus ar hyd y ffordd!

Gwnewch atgofion bythgofiadwy yn Sir Conwy’r Pasg hwn = trefnwch eich diwrnod allan gyda’r teulu heddiw! #HwylyPasg #SirConwy #AnturiaethauTeuluol

Dyma rai o’n goreuon ni…..

Chwarae o Gwmpas - Plas Mawr 

1 Ebrill
10am - 4pm

Dewch i gyfarfod Cellweiriwr Conwy a gadewch iddo’ch diddanu gyda’i gastiau gwirion! Cewch beintio’ch wyneb ac ymuno â ni am hwyl, gemau a gweithgareddau. Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr helfa Wyau Pasg flynyddol.

Helfa Wyau Pasg y Ddraig -  Castell Gwrych 

3 Mawrth – 1 Ebrill
10am – 5pm

Mae Dewi‘r ddraig wedi dianc ac wedi dodwy wyau o amgylch y castell! Ymunwch yn yr helfa gan ddatrys posau a rhigymau er mwyn dod o hyd i’r nythod a’r Wyau Draig mawr. Ar y ffordd byddwch yn cyfarfod trigolion y Castell sydd eisiau help i ddod o hyd i’r Ddraig ddiflanedig! 

Mae angen archebu lle. 

Helfa Wyau Pasg a Chrefftau - Conwy RSPB

Dydd Sul 31 Mawrth
11am - 12.30pm a 2pm - 3.30pm

Mae wyau Tegi’r ddraig ar goll yn rhywle o amgylch y warchodfa natur. Fedrwch chi ddatrys y cliwiau i’w helpu i ddod o hyd iddynt? Cewch gyfle i wneud crefftau’r Pasg i fynd adref gyda chi hefyd. 

Mae angen talu ffioedd mynediad.

Llwybr Pasg Arbennig -  Amgueddfa ac Oriel Llandudno

1 Mawrth tan 30 Mawrth
Dydd Mawrth - dydd Sadwrn
10am i 4pm

Mae llwybr arbennig y Pasg yn ein hamgueddfa wedi’i ddylunio’n arbennig i blant gael hwyl a phrofiadau addysgol, bydd plant yn cael taflen i’w helpu i ddilyn y llwybr drwy orielau’r amgueddfa lle bydd cliwiau gyda llythyren a fydd yn eu helpu i sillafu’r gair Pasg arbennig. 

Mae angen archebu lle. 

Hwyl y Pasg gyda’r Pengwiniaid yn Sŵ Mynydd Cymru

23 Mawrth 2024 – 7 Ebrill 2024
9.30am – 12pm

Byddwch y barod am fyd o antur gwyllt yn Sŵ Mynydd Cymru’r Pasg hwn!

Dewch wyneb yn wyneb â chreaduriaid o bedwar ban byd ar helfa wyau Pasg gyffrous i ddod o hyd i wyau anturus y Pengwiniaid!

Bydd danteithion i’w darganfod gan y rhai sydd â llygaid barcud! O lwybrau gweithgareddau i weithdai crefft a mwy, rydych yn sicr o gael Pasg i’w gofio.

Am ragor o fanylion ewch i wefan Sŵ Mynydd Cymru a dilynwch negeseuon SMC ar Facebook, Instagram ac X/Twitter.

Mae angen talu ffioedd mynediad.

Helfa Wyau Pasg yng Ngardd Bodnant

Dilynwch y llwybr i ganfod gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan natur ar gyfer y teulu cyfan.

Dewch i nôl taflen Llwybr y Pasg, clustiau cwningen ac wy siocled.

Ewch ar helfa chwilod o amgylch yr ardd.

Mae pryfed yn hynod o bwysig i’r ardd, cewch ddysgu mwy amdanyn nhw a gwneud gweithgareddau llawn hwyl ar hyd y ffordd. Allwch chi neidio fel sioncyn y gwair neu helpu’r wenynen i fynd at y blodyn?

Mae angen talu ffioedd mynediad.

Fferm Manorafon

23 Mawrth – 1 Ebrill
10am – 3pm

Mae Profiad Mawr y Pasg yn ddiwrnod allan perffaith i’r teulu.

Edrychwch be’ sy ‘mlaen a beth sydd wedi’i gynnwys… Helfa Wyau Pasg; anrheg siocled i bob plentyn; cwrdd â Chwningen y Pasg; ymweld â’r Sied Botio a phlannu eich moron eich hun; cwrdd â chywion a chwningod y Pasg yn ogystal â…

Holl hwyl a chwarae arferol ar y parc fferm

Mae angen archebu lle. 

Llandudno Chocolate Experience 

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener o Fawrth 26ain

Fyddai Gwyliau’r Pasg ddim yr un fath heb ymweldiad â’r trysor cudd hwn yn nhref Llandudno.

Ewch ar siwrnai llawn swyn siocledaidd o amgylch Profiad Siocled Llandudno lle mae arogl cyfareddol coco yn llenwi pob twll a chornel. Ymgollwch mewn 500 mlynedd o hanes siocled a phrofi tameidiau blasus ar hyd y ffordd!

Mae angen talu ffioedd mynediad.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.