Gyda chuddfannau clyd, bwyd blasus, golygfeydd godidog ac awyr serennog, mae gennym yr holl gynhwysion sydd eu hangen ar gyfer taith hudolus i ddau.

Diolch i’n cestyll breuddwydiol a’n traethau hir, hyfryd, mae bob amser ymdeimlad o ramant yn yr awyr yn Sir Conwy. Mae’r gaeaf a dechrau'r gwanwyn yn dymor ar gyfer machlud cynnar, llusernau pefriog a lleoedd tân cysurus sy’n eich gwahodd i mewn ar ôl eich anturiaethau awyr agored. Mae'n amser perffaith i glosio’n glyd gyda’ch gilydd.

Ar ben hynny, mae gennym ddwy ŵyl ramantus yn ein calendr gaeafol, Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr (sy’n dathlu nawddsant cariadon Cymru) ac yna Dydd San Ffolant, ar 14 Chwefror.

Pa bynnag adeg o'r flwyddyn y byddwch yn ymweld, mae llawer o bethau hyfryd i'w gwneud bob amser. Mae Llandudno a Bae Colwyn, gyda’u siopau anrhegion a chrefftau llawn cymeriad ac orielau celf gyfoes, yn drefi pleserus i grwydro o gwmpas a mynd i wylio sioeau gyda’r nos.

Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r milltiroedd lawer o lwybrau mewndirol yn wych ar gyfer teithiau cerdded hir lle gallwch sgwrsio wrth fynd. Mae gweithgareddau cyffrous i roi cynnig arnynt hefyd, fel beicio mynydd a gwifren sip, ac mae golygfeydd a fydd yn gwneud i’ch calonnau rasio i’w gweld yng nghoedwigoedd hynafol, llynnoedd lleddfol a rhaeadrau byrlymog Conwy. Ar ôl iddi hi dywyllu, os yw'r awyr yn glir, efallai y gwelwch chi seren wib hyd yn oed.

Ble i aros

Mae gan bawb eu syniad eu hunain o beth sy’n gwneud rhywle’n rhamantus. I rai, amgylchedd moethus, bwyd rhagorol a gwasanaeth gwych ydyw; i eraill, symlrwydd, heddwch a thawelwch ydyw. Beth bynnag fo’ch chwaeth, fe welwch gyfoeth o opsiynau ymhlith gwestai, tai llety, gwely a brecwast, bythynnod a phadiau hunanarlwyo Conwy. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Ble i fwyta ac yfed

Er nad oes prinder caffis bach del a thafarndai croesawgar yn Sir Conwy, os hoffech rywbeth ychydig yn fwy arbennig beth am archebu Dosbarth Meistr Wisgi yn Nistyllfa Penderyn yn Llandudno, neu archebu bwrdd yn un o’n bwytai gorau. Mae bistro’r cogydd enwog Bryn Williams ym Mhorth Eirias, yn cynnig ciniawau bwyd môr blasus gyda golygfeydd godidog o’r môr, tra bod Jackdaw ar Stryd Fawr Conwy a Signatures yn Aberconwy Resort & Spa ill dau yn gweini’r bwyd cyfoes Cymreig gorau, wedi’i gyflwyno’n gain. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.