Dod yn Gyfeillgar i Hygyrchedd
Mae gwella hygyrchedd yn helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau yr hyn sydd gan Sir Conwy i’w gynnig. Mae hyn yn cynnwys ymwelwyr gydag anableddau, ymwelwyr hŷn, teuluoedd a phawb sy’n elwa o wybodaeth fwy eglur a mynediad haws.
Nid yw dod yn fwy cyfeillgar i hygyrchedd bob amser yn gofyn am newidiadau mawr. Gall gwelliannau bach ac ymarferol a chyfathrebu clir wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad ymwelwyr.
-
Mae hygyrchedd yn ymwneud â mwy na mynediad corfforol yn unig. Mae’n cynnwys pa mor hawdd yw hi i ymwelwyr gynllunio eu hymweliad a deall beth i’w ddisgwyl cyn iddynt gyrraedd.
Gall hyn gynnwys:
- Gwybodaeth glir a chywir yn ymwneud â mynediad.
- Mynediad sy’n rhydd o risiau neu’n wastad pan fo’n bosibl
- Seddi, golau a mannau tawel
- Ymwybyddiaeth a hyder staff
Mae bod yn onest ynglŷn â beth allwch chi a beth na allwch chi ei ddarparu yn helpu ymwelwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
-
Mae camau syml tuag at well hygyrchedd yn cynnwys:
- Adolygu a diweddaru gwybodaeth yn ymwneud â mynediad ar eich gwefan a’ch rhestrau
- Disgrifio mynedfeydd, grisiau, arwynebeddau a chyfleusterau yn glir
- Defnyddio lluniau i ddangos pwyntiau mynediad allweddol
- Ceisio adborth a gwneud gwelliannau pan fo’n bosibl
Darparu gwybodaeth eglur yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi twristiaeth hygyrch.