Cefnogaeth i Fusnesau

Tim Cymorth i Fusnesau Conwy

Chwilio am gymorth a chyngor am fusnes?

Mae Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yma i’ch helpu chi. Rydym yn cynnig gwasanaeth am ddim, di-duedd gan eich cefnogi a’ch cyfeirio at y cyngor a’r wybodaeth berthnasol.

Bob blwyddyn drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, digwyddiadau a’n hamrywiol lwyfannau cyfathrebu, bydd Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yn ymgysylltu â dros 6,000 o fusnesau ar draws Sir Conwy.

Mae Sir Conwy yn lleoliad perffaith i fusnesau

Yn Sir Conwy mae cymuned fusnes ffyniannus o fentrau bach,  canolig a chymdeithasol, ac mae Tîm Cymorth i Fusnesau Conwy yn bwynt cyswllt allweddol sy’n sicrhau bod gan fusnesau fynediad at wybodaeth yn ogystal â’r gefnogaeth a’r cyngor angenrheidiol.

Gallwn eich helpu gyda:

  • Cyngor Busnes Cyffredinol – yn cynnwys cynllunio busnes a chynllunio ariannol.
  • Grantiau a chyllid – yn ogystal â gweinyddu Grant Cymorth i Fusnesau Conwy  gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i unrhyw gynlluniau ariannu eraill a fydd o bosibl yn dod i’r amlwg.
  • Gweithdai a hyfforddiant –  gwybodaeth am y gweithdai a’r digwyddiadau hyfforddiant niferus sydd yn cael eu cynnal er mwyn i chi allu datblygu eich sgiliau a’ch busnes ymhellach.
  • Recriwtio a sgiliau - recriwtio pobl newydd neu wella sgiliau eich tîm presennol; gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi.
  • Cymorth Busnes Arbenigol – rydym wedi datblygu cysylltiadau cadarn a gwerthfawr gyda’r sefydliadau niferus sy’n cynnig cymorth arbenigol a gallwn eich helpu chi i wneud y cysylltiadau yr ydych eu hangen.
  • Rhwydweithio – gydag amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau, yn cynnwys Gwobrau Busnes Conwy, gallwn eich helpu chi i gysylltu â’r gymuned fusnes ehangach.
  • Newyddion Busnes – Trwy ein newyddlen reolaidd a fflach newyddion, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newyddion busnes, digwyddiadau a gwybodaeth.

A llawer mwy....

Am rafor o wybodaeth ewch i'n gwefan , neu gofrestru ar gyfer ein newyddlen. Os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth i Fusnesau, cwblhewch y ffurflen yma      neu anfonwch e-bost at business@conwy.gov.uk.