Gall fflecsi eich cysylltu â diwrnodau allan arbennig. fflecsi yw'r gwasanaeth bws ar-alw gan Trafnidiaeth Cymru sy’n eich cludo i ble bynnag, pryd bynnag.*

Yn gweithredu drwy Ddyffryn Conwy mae fflecsi, y bws sy’n sicrhau fod pob taith yn hawdd. Mae'r gwasanaeth yn hyblyg, a gallwch ei drefnu i'ch cludo i ardaloedd cofiadwy Cymru, heb orfod dibynnu ar lwybrau sefydlog nac amserlenni penodol. Mae’n cysylltu Betws-y-coed, Llanrwst a phentrefi cyfagos yn rhwydd.

O deithiau cerdded ar lan yr Afon Conwy yn Llanrwst, i lwybrau a llynnoedd Coedwig Gwydir, mae fflecsi yn eich cysylltu â thirwedd drawiadol Cymru. Treuliwch amser yn crwydro Betws-y-coed, yn darganfod ceunant hudolus Ffos Anoddun, neu’n camu yn ôl mewn amser yng Nghastell Gwydir. Mae cyfle hefyd i dorri syched â phaned a chacen ar ôl diwrnod yn yr awyr agored, yn ystafell de eiconig Tu Hwnt i'r Bont.

Gall fflecsi hefyd eich cysylltu â mannau hanfodol fel Canolfan Hamdden Llanrwst, Llyfrgell Llanrwst, Meddygfa Gwydir a Meddygfa Betws-y-coed, drwy eich cysylltu chi ac ymwelwyr â chymunedau lu.

Trefnwch eich taith nesaf drwy’r ap neu dros y ffôn a theithio o fewn ardal ddynodedig y gwasanaeth fflecsi pryd bynnag sy’n addas i chi.

Chwiliwch fflecsi TrC neu ffoniwch 03002 340 300

* T+A yn berthnasol. Casglu a gollwng o fewn ardal gwasanaeth fflecsi yn unig. Gall amseroedd gweithredu'r gwasanaeth amrywio.